网曝黑料

Budd-daliadau, cymorth ariannol a chyngor ar ddyledion

Benefits, financial support and debt advice

Below is a Welsh translation of our information resource on benefits, financial support and debt advice. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd ? phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae'r adnodd gwybodaeth hwn yn trafod y budd-daliadau y gallech chi fod ? hawl i’w cael os oes gennych chi salwch meddwl, neu os ydych chi'n gofalu am rywun sydd ? salwch meddwl.

Mae'n darparu gwybodaeth am y gwahanol fathau o fudd-daliadau, anabledd, a bod mewn dyled. Mae hefyd yn cynnwys cyngor ac arweiniad i weithwyr iechyd meddwl proffesiynol ar sut y gallan nhw gefnogi eu cleifion.

Mae budd-daliadau (a elwir hefyd yn Nawdd Cymdeithasol, Budd-daliadau’r Wladwriaeth neu’n Fudd-daliadau Lles) yn arian sy’n cael ei dalu gan y llywodraeth i bobl sydd:

  • ar incwm is
  • ? chyflyrau iechyd sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw weithio llai neu nad ydyn nhw’n gallu gweithio o gwbl
  • yn gofalu am bobl eraill, fel plant neu berthnasau eraill sy'n cael trafferth gofalu amdanyn nhw eu hunain.

Mae budd-daliadau yn arian nad oes rhaid i chi ei dalu yn ?l.

Bydd pa fudd-daliadau y mae gennych chi hawl i'w cael yn dibynnu ar eich sefyllfa unigryw chi, gan gynnwys:

  • Sut mae unrhyw gyflyrau sydd gennych chi yn effeithio arnoch chi
  • P'un a ydych chi’n gweithio ai peidio
  • Faint rydych chi'n ei ennill os ydych chi’n gweithio
  • A oes gennych chi , a faint sydd gennych chi
  • A oes gennych chi
  • A ydych chi’n byw ar eich pen eich hun neu gydag eraill
  • A oes gennych chi bartner
  • Eich oedran
  • A ydych chi'n neu a oes rhywun yn gofalu amdanoch chi

Y peth pwysicaf i’w ystyried wrth wneud cais am fudd-daliadau yw sut mae eich salwch meddwl yn effeithio ar eich bywyd bob dydd. Mae hyn oherwydd y gallai dau berson gael yr un diagnosis, a chael profiadau gwahanol iawn.

Enghraifft

Dyma dri pherson sydd ? diagnosis o anhwylder deubegynol.

Mae gan Berson A swydd, mae'n byw ar ei ben ei hun ac mae ei iechyd meddwl yn eithaf sefydlog.

Nid yw Person B yn gallu gweithio na byw ar ei ben ei hun. Mae ei iechyd meddwl yn ansefydlog iawn, ac mae arno angen llawer o gefnogaeth gan bobl eraill i ofalu amdano’i hun.

Mae Person C rhywle yn y canol. Mae ei iechyd meddwl weithiau'n sefydlog ac weithiau ddim, ac mae arno angen help gan bobl eraill ar adegau gwahanol.

Bydd gan y bobl yn yr enghraifft hon hawl i gael gwahanol fathau o fudd-daliadau a gwahanol lefelau o gefnogaeth.

Bydd gan rai pobl gyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau iechyd corfforol. Mae'n bwysig meddwl am sut mae unrhyw gyflyrau sydd gennych chi yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, a sut maen nhw'n rhyngweithio ?'ch iechyd meddwl.

I rai pobl mae eu hiechyd corfforol yn cael mwy o effaith arnyn nhw na'u hiechyd meddwl, neu i'r gwrthwyneb. Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fudd-daliadau mae'n bwysig s?n am yr holl ffyrdd y mae eich iechyd yn effeithio ar eich gallu i fyw yn annibynnol.

Gall pobl sydd ag anableddau dysgu neu awtistiaeth, a'r bobl sy'n gofalu amdanyn nhw, wneud cais am rai budd-daliadau. Fel gydag unrhyw gyflwr, bydd hyn yn dibynnu ar sut mae'n effeithio arnoch chi neu ar y person rydych chi'n gofalu amdano, a llawer o ffactorau eraill.

Cyn gwneud cais am fudd-daliadau, defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weithio allan beth y gallech chi fod ? hawl i’w gael. Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael mwy nag un math o fudd-dal.

Dyma dair cyfrifiannell budd-daliadau y gallwch chi eu defnyddio i'ch helpu:

Hyd yn oed wrth ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau, gall gweithio allan beth sydd gennych chi hawl i’w gael a sut i wneud cais fod yn anodd. Efallai y byddwch chi eisiau gofyn am arweiniad gan weithiwr proffesiynol.

Mae gan lawer o elusennau iechyd meddwl gynghorwyr lles a chynghorwyr budd-daliadau sy'n gallu cynnig cyngor wedi'i deilwra i chi. Gallwch hefyd siarad ? gwasanaeth . Yng Ngogledd Iwerddon, mae yn darparu gwasanaethau cyngor annibynnol. Efallai y byddwch chi hefyd am siarad ag asiantaethau cynghori lleol eraill i gael cyngor mwy personol ar hawlio budd-daliadau.

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Mae PIP yn fudd-dal sy'n helpu gyda chostau byw ychwanegol sydd gennych chi oherwydd eich cyflwr iechyd meddwl neu gorfforol. Gallwch wneud cais am PIP os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd sy'n effeithio arnoch chi o ran gwneud rhai tasgau bob dydd. Mae rhagor o wybodaeth am anabledd ar gael ymhellach ymlaen yn yr adnodd hwn.

Gallwch gael PIP hyd yn oed os ydych chi'n gweithio, os oes gennych chi gynilion neu os ydych chi'n cael y rhan fwyaf o fudd-daliadau eraill.

Mae PIP yn ystyried:

  • Byw bob dydd — os oes angen help arnoch chi gyda thasgau bob dydd
  • Symudedd — os oes angen help arnoch chi i symud o gwmpas

Os oes gennych chi salwch meddwl, efallai y byddwch chi’n ei chael hi'n anodd gofalu amdanoch chi'ch hun, cymdeithasu neu adael y t? heb gymorth.  Os felly, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael PIP.

Mae PIP wedi disodli budd-dal h?n o'r enw Lwfans Byw Anabledd (DLA) ar gyfer pobl 16 oed neu'n h?n. Mae DLA ar gael o hyd ar gyfer y rhai dan 16 oed (mae rhagor o wybodaeth isod). Bydd oedolion sy'n dal i gael DLA yn cael eu symud i PIP.

Dysgwch fwy am PIP ar wefan .

Taliad Anabledd i Oedolion (ADP)

Dim ond i bobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr y mae PIP ar gael. Os ydych chi’n byw yn yr Alban, bydd angen i chi wneud cais am yn ei le.

Os na allwch chi weithio oherwydd bod gennych chi salwch meddwl sy'n gwneud hynny’n anodd i chi, mae budd-daliadau eraill y gallwch chi wneud cais amdanyn nhw.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu chi gyda chostau byw. Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol os ydych chi ar incwm isel, allan o waith neu os na allwch chi weithio.

Os ydych chi’n cael budd-daliadau eraill, efallai y bydd Credyd Cynhwysol yn disodli'r budd-daliadau hynny.

Dysgwch fwy am .

Gallwch hefyd gysylltu ?'r i gael cymorth ar hawlio Credyd Cynhwysol.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Gallwch wneud cais am ESA os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd sy'n effeithio ar faint y gallwch chi weithio

Mae ESA yn darparu:

  • arian i helpu gyda chostau byw os nad ydych chi’n gallu gweithio
  • cymorth i fynd yn ?l i'r gwaith os ydych chi’n gallu gwneud hynny

Gallwch wneud cais os ydych chi’n gyflogedig, yn hunangyflogedig neu'n ddi-waith.

Gostyngiad i’r Dreth Gyngor

Os ydych chi ar fudd-daliadau neu incwm isel, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael gostyngiad i’r dreth gyngor. Bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, eich amgylchiadau unigol, eich incwm, ac a oes gennych chi blant neu oedolion eraill sy'n byw gyda chi.

Gweler am ragor o wybodaeth.

Yng Ngogledd Iwerddon, 'ardrethi' yw’r enw am y Dreth Gyngor. Dysgwch fwy am .

Eithriad rhag y Dreth Gyngor

Nid oes rhaid i rai pobl sydd ? salwch meddwl neu anableddau dysgu dalu’r dreth gyngor.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch a ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi'u heithrio rhag talu'r Dreth Gyngor ar wefan trwy gysylltu ?'ch cyngor lleol.

Budd-dal Tai

Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio Budd-daliadau Tai os:

  • Ydych chi’n ddi-waith, ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau
  • ac wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • neu yn byw mewn llety ? chymorth, llety gwarchod neu lety dros dro.

Os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn, bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn lle.

Gweler am ragor o wybodaeth.

Taliad Tanwydd y Gaeaf

Os cawsoch chi eich geni ar neu cyn 23 Medi 1958, gallech gael Taliad Tanwydd y Gaeaf i helpu gyda'ch biliau gwresogi.

Dylech fod yn gymwys ar gyfer y taliad hwn os ydych chi’n:

  • cael Pensiwn y Wladwriaeth
  • cael rhai budd-daliadau eraill

Os ydych chi'n gymwys i gael Taliad Tanwydd y Gaeaf dylech ei gael yn awtomatig, ond efallai y bydd angen i chi wneud cais amdano.

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i gael Taliad Tanwydd y Gaeaf a .

Taliad Tanwydd y Gaeaf

Os cawsoch chi eich geni ar neu cyn 23 Medi 1958, gallech gael Taliad Tanwydd y Gaeaf i helpu gyda'ch biliau gwresogi.

Dylech fod yn gymwys ar gyfer y taliad hwn os ydych chi’n:

  • cael Pensiwn y Wladwriaeth
  • cael rhai budd-daliadau eraill

Os ydych chi'n gymwys i gael Taliad Tanwydd y Gaeaf dylech ei gael yn awtomatig, ond efallai y bydd angen i chi wneud cais amdano.

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i gael Taliad Tanwydd y Gaeaf a .

Cymorth Dewisol yng Ngogledd Iwerddon

Mae Cymorth Dewisol yn fath o gymorth ariannol sydd ar gael i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch wneud cais am gymorth dewisol mewn amgylchiadau eithriadol i'ch helpu gyda'r canlynol:

  • treuliau byw tymor byr
  • neu brynu eitemau cartref.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y cewch gynnig benthyciad di-log, neu grant nad oes rhaid i chi ei dalu'n ?l.

Dysgwch fwy am Gymorth Dewisol a'r gofynion cymhwysedd .

Dod o hyd i wybodaeth am fathau eraill o gymorth

Mae mathau eraill o gymorth ar gael i bobl sy'n byw ? salwch meddwl a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw. I gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi, siaradwch ?’ch gwasanaeth , ag elusen neu i’ch helpu i archwilio opsiynau.

Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)

Os yw'ch plentyn neu blentyn rydych chi’n gofalu amdano o dan 16 oed ac mae ganddo anabledd, efallai byddwch chi ? hawl i Lwfans Byw i'r Anabl (DLA).

Roedd y budd-dal hwn yn arfer bod ar gael i oedolion hefyd, ond i bobl dros 16 oed mae DLA wedi cael ei ddisodli gan PIP.

Mae DLA yn helpu gyda'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ? gofalu am blentyn dan 16 oed sydd angen llawer mwy o ofal na phlentyn heb anabledd o'r un oedran.

Mae rhagor o wybodaeth am DLA ar wefan .

yw’r enw ar hwn yn yr Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer hawlio DLA.

Mae gofalwr yn rhywun sy'n treulio amser yn rheolaidd yn gofalu am rywun heb gael ei dalu.

Yn ogystal ? Chredyd Cynhwysol, gall gofalwyr fod ? hawl i gael:

  • – Gallech fod ? hawl i Lwfans Gofalwr os ydych chi'n treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun sy’n cael rhai budd-daliadau. Nid oes rhaid i chi fod yn perthyn i'r person rydych chi'n gofalu amdano, nac yn byw gyda'r person hwnnw.
  • – Mae hwn yn fath o gredyd yswiriant gwladol sy'n helpu i sicrhau y gallwch chi barhau i gael mynediad at bensiwn sylfaenol y wladwriaeth a budd-daliadau eraill os nad ydych chi'n gweithio. Gallech gael Credyd Gofalwr os ydych chi'n treulio o leiaf 20 awr yr wythnos yn gofalu am rywun.

Mae gan ofalwyr hawl hefyd i gael . Gallwch gysylltu ? gwasanaethau cymdeithasol oedolion eich cyngor lleol a gofyn am asesiad gofalwr.

Mae gwefan yn darparu rhagor o wybodaeth am y budd-daliadau y mae gennych chi hawl i’w cael os ydych chi'n ofalwr.

Os byddwch chi’n cael eich derbyn i'r ysbyty, efallai y bydd taliadau rhai budd-daliadau yn cael eu hatal ar ?l cyfnod o amser.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau ac yn cael eich derbyn i’r ysbyty, neu os yw’n bosibl y byddwch chi’n cael eich derbyn i’r ysbyty, mae'n bwysig gwirio a oes angen i chi roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, a’ch bod chi’n parhau i gael rhai budd-daliadau tra byddwch chi yn yr ysbyty, efallai y bydd gofyn i chi eu had-dalu.

Efallai y bydd aelod o'r teulu neu ffrind yn gallu rhoi gwybod i'r DWP tra byddwch chi yn yr ysbyty os nad ydych chi’n gallu gwneud hynny.

Mae'r elusen Disability Rights UK yn darparu ar sut y gallai gwahanol fudd-daliadau gael eu heffeithio os byddwch chi’n mynd i'r ysbyty.

Taliad Annibyniaeth Personol

Efallai y bydd eich taliadau PIP yn cael eu hatal os ydych chi yn yr ysbyty am fwy na 28 diwrnod, oni bai:

  • eich bod dan 18 oed
  • eich bod yn talu am eich arhosiad mewn ysbyty preifat

Dylech ddweud wrth y DWP os cewch eich derbyn i'r ysbyty. Os na fyddwch chi’n gwneud hynny a'ch bod yno am dros 28 diwrnod ac yn parhau i gael eich taliadau PIP, efallai y bydd gofyn i chi eu had-dalu.

Unwaith y byddwch chi allan o'r ysbyty, dylech ddweud wrth y DWP fel y gallan nhw ail-ddechrau talu eich PIP.

Mae'r un rheolau yn berthnasol os ydych chi yn y carchar neu yn y ddalfa am fwy na 28 diwrnod.

Mae gwefan yn darparu rhagor o wybodaeth am PIP ac arosiadau yn yr ysbyty.

O dan ba amgylchiadau eraill y gallai fy mudd-daliadau gael eu hatal?

Mae rhai amgylchiadau eraill lle gallai eich budd-daliadau gael eu heffeithio neu eu hatal. Er enghraifft, os yw eich cyflwr yn newid neu os ydych chi'n symud dramor. Os nad ydych chi’n si?r, mae gwefan yn darparu rhagor o wybodaeth am wahanol fudd-daliadau a sut y gallent gael eu heffeithio.

A yw salwch meddwl yn anabledd?

Mae anabledd yn salwch corfforol neu feddyliol sy'n ei gwneud hi'n anoddach i rywun wneud rhai gweithgareddau, neu ryngweithio ?'r byd o'i gwmpas.

Ni fydd pawb sydd ? salwch meddwl bob amser yn cael eu hystyried yn anabl. Mae llawer o bobl sydd ? salwch meddwl yn mynd o fod yn 'iach' i fod yn 's?l' ar wahanol adegau. Anaml y gellir rhagweld hyn.

Pan fydd salwch meddwl yn ei gwneud hi'n anodd iawn i chi ofalu amdanoch chi'ch hun neu ryngweithio ag eraill, caiff ei ystyried yn anabledd. Mae hyn yn golygu bod gennych chi hawl i gael eich cefnogi a’ch amddiffyn o dan y gyfraith.

Nid yw pawb yn hoffi'r term anabledd, neu'n teimlo ei fod yn berthnasol iddyn nhw. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio'r term anabledd yma, gan ei fod yn gallu helpu pobl i ddeall y budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i'w cael a'u hawliau cyfreithiol.

Pryd mae salwch meddwl yn anabledd?

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ystyrir salwch meddwl yn anabledd os yw'n cael effaith negyddol 'sylweddol' a 'hirdymor' ar eich 'gweithgaredd arferol o ddydd i ddydd'.

  • Mae 'sylweddol' yn anodd ei ddiffinio, ond mae'n golygu mwy nag arfer ac i raddau sy'n cael effaith arwyddocaol ar eich bywyd.
  • Mae ‘tymor hir’ yn golygu os yw eich cyflwr yn para, neu’n debygol o bara, 12 mis neu fwy
  • Diffinnir 'gweithgaredd arferol o ddydd i ddydd' fel rhywbeth rydych chi'n ei wneud yn rheolaidd mewn diwrnod arferol. Er enghraifft, defnyddio cyfrifiadur, gweithio amseroedd penodol neu ryngweithio ? phobl.

Mae gwefan yn darparu rhagor o wybodaeth am hyn.

Dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol ac anabledd

Nid yw bod yn ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol yn cael ei ystyried yn anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Fodd bynnag, os yw rhywun yn ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol ac mae ganddo gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor arno, byddai hyn yn cael ei ystyried yn anabledd. Er enghraifft, rhywun sy'n ddibynnol ar alcohol ac sydd ag iselder sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar ei fywyd.

Wrth wneud cais am fudd-daliadau, gall eich t?m iechyd meddwl helpu i ddarparu tystiolaeth glinigol. Mae canllawiau ar gael gan y Coleg i helpu gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i ddarparu tystiolaeth o ansawdd uchel. Dysgwch fwy am hyn yn adran 'gwybodaeth i weithwyr proffesiynol' yr adnodd hwn.

Gwybodaeth bellach

  • , Scope – Gwybodaeth am hawlio budd-daliadau os oes gennych chi broblem iechyd meddwl.
  • , Mind – Gwybodaeth am lenwi ffurflenni budd-daliadau ac asesiadau budd-daliadau.
  • Minding Your Head – Mae'r gwasanaethau a restrir ar y wefan hon yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl yng Ngogledd Iwerddon ar faterion a all gael effaith ar iechyd meddwl.

Nid yw wynebu heriau ariannol o bryd i'w gilydd yn anghyffredin. Fodd bynnag, os ydych chi'n cael trafferth gyda dyled neu'n ei chael hi'n anodd talu eich biliau, efallai y bydd angen cymorth proffesiynol arnoch chi.

Mae pobl yn wynebu heriau gyda dyled am bob math o resymau, gan gynnwys eu hiechyd meddwl. Gall profi salwch meddwl neu iechyd meddwl gwael olygu eich bod yn:

  • cael incwm llai os nad ydych chi’n gallu gweithio
  • anghofio neu osgoi talu biliau
  • gwario mwy nag y gallwch chi ei fforddio

Mae'n bwysig cofio mai gorau po gyntaf y cewch chi help i ddelio ? dyled. Dyma restr o sefydliadau ac adnoddau sydd ar gael i'ch cefnogi chi:

Sefydliadau

  • Mae yn cynnig cyngor a chymorth ar ystod enfawr o faterion, gan gynnwys arian a dyled.
  • Mae yn rhoi cyngor annibynnol am ddim, dros y ff?n ac ar-lein, ynghylch delio ? dyled. Ff?n: 0808 808 4000
  • Mae yn wasanaeth cyngor ar-lein gan Mental Health UK sy'n helpu pobl i ddeall, rheoli a gwella eu problemau iechyd meddwl ac arian.

Gwybodaeth am arian ac iechyd meddwl

  • Dyled ac Iechyd Meddwl, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (网曝黑料) – Gall ein gwybodaeth am ddyled ac iechyd meddwl gynnig syniadau i chi ar sut i ddelio ?'r materion rydych chi'n eu hwynebu.
  • , Mind – Dysgwch fwy am y cysylltiad rhwng iechyd meddwl ac arian, trefnu eich cyllid, hawlio budd-daliadau a mwy.
  • , Money Saving Expert – Mae'r llyfryn rhad ac am ddim hwn ar gyfer pobl sydd ? phroblemau iechyd meddwl a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw. Mae'n trin sut i ddelio ? dyled, gweithio gyda banciau, cwnsela am ddim ar faterion sy’n ymwneud ? dyled, awgrymiadau i bobl sydd ag anhwylder deubegynol neu iselder, penderfynu a ddylid datgan cyflwr, a mwy.
  • , StepChange – Mae'r elusen ddyledion StepChange yn cynnig gwybodaeth am reoli eich arian a delio ? straen dyled.
  • , Rethink Mental Illness – Mae Rethink Mental Illness yn cynnig Gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian, ac yn darparu gwybodaeth am wahanol fudd-daliadau a chymorth ariannol.

Pan fyddwch chi’n gweithio gyda rhywun sydd ? salwch meddwl, mae'n bwysig cofio bod heriau ymarferol a allai fod yn effeithio'n uniongyrchol ar ei iechyd meddwl.

Gall fod yn llawer anoddach canolbwyntio ar feddyginiaethau, therap?au neu bethau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch iechyd meddwl os ydych chi’n wynebu trafferthion ariannol. Gall gwneud cais am fudd-daliadau fod yn broses sy'n cymryd llawer o amser ac mae’n aml yn gymhleth. Mae llawer o bobl yn apelio yn erbyn y penderfyniad am eu budd-daliadau, ac yn gorfod mynd i dribiwnlys, gan achosi mwy o straen iddyn nhw.

Gall ystyried yr unigolyn cyfan, a dangos cefnogaeth a dealltwriaeth o heriau'r broses fudd-daliadau, gael effaith gadarnhaol ar eich cleifion.

Darparu tystiolaeth glinigol

Gellir gofyn i weithwyr proffesiynol iechyd meddwl ddarparu tystiolaeth ategol pan fydd rhywun y maen nhw’n gofalu amdano yn gwneud hawliad budd-daliadau. Mae gennym wybodaeth am sut i ddarparu tystiolaeth mewn ffordd ddefnyddiol ac effeithiol:

Taliad annibyniaeth personol (PIP)

Mae PIP yn fudd-dal sy'n helpu gyda chostau byw ychwanegol i bobl sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd ac sy'n profi heriau wrth wneud rhai tasgau bob dydd.

Mae'r Coleg wedi creu canllawiau i glinigwyr ar ddarparu tystiolaeth glinigol ar gyfer PIP, gan gynnwys gwybodaeth am lunio llythyr tystiolaeth a llythyrau enghreifftiol.

Asesiad Gallu i Weithio (WCA) ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Mae ESA yn fudd-dal a delir i bobl sydd ? salwch neu anabledd sy'n effeithio ar faint y maen nhw’n gallu gweithio. Fel clinigydd sy’n gofalu am unigolyn, efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi hawliad y person hwnnw am ESA. Gallai'r cais hwn ddod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ond mae'n fwyaf tebygol o ddod gan yr unigolyn rydych chi'n ei drin.

Ar hyn o bryd nid oes canllawiau sy’n bodoli ar ysgrifennu adroddiadau clinigol ar gyfer y WCA. Weithiau anfonir y ffurflen ESA113 at glinigwyr; nid yw hon wedi'i gosod allan yn glir ac mae’n anodd ei chwblhau. Rydym yn argymell eich bod chi’n ysgrifennu eich adroddiadau eich hun gan ddefnyddio'r amlinelliad rydym wedi'i ddatblygu.

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu ?’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (网曝黑料). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Awdur arbenigol: Dr Jed Boardman, Arweinydd y Coleg ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol

Diolch i'r bobl sydd ? phrofiad bywyd a gymerodd yr amser i rannu eu barn am yr adnodd hwn.

Byddwn yn anelu at ddiweddaru'r adnodd hwn yn flynyddol.

Rydym wedi cynhyrchu fersiwn o'n hadnodd budd-daliadau, cymorth ariannol a dyled sy'n cynnwys y dolenni llawn. Defnyddiwch y fersiwn hon os ydych chi’n argraffu ac yn rhannu'r adnodd hwn.

Cyhoeddwyd: Ebrill 2025

Adolygiad i ddod: Ebrill 2026

? Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (网曝黑料)

This translation was produced by CLEAR Global (May 2025)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry