网曝黑料

Salwch corfforol ac iechyd meddwl mewn plant

Physical illness and mental health in young people

Below is a Welsh translation of our information resource on physical illness and mental health in young people. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd ? phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae'r wybodaeth hon yn trafod yr effeithiau y gall salwch corfforol hirdymor eu cael ar iechyd meddwl person ifanc. Mae wedi cael ei hysgrifennu ar gyfer rhieni a gofalwyr plentyn sydd ? salwch corfforol.

Mae salwch corfforol yn salwch sy'n effeithio ar eich corff. Mae yna lawer o wahanol fathau o salwch corfforol, ac nid yw’n bosibl i ni eu trafod nhw i gyd yma.

Bydd y wybodaeth yn yr adnodd hwn yn berthnasol yn bennaf i rieni sydd ? phlentyn sy’n dioddef o salwch corfforol cronig. Mae hwn yn salwch sy'n para am gyfnod sylweddol o amser, fel arfer o leiaf blwyddyn. Efallai na fydd salwch corfforol cronig yn para am byth, ac fel arfer gellir ei reoli dros amser gyda meddyginiaethau a thriniaeth. Mae pobl yn aml yn credu ar gam fod y term cronig yn golygu ‘drwg’. Mewn gwirionedd, mae'n golygu rhywbeth sy'n parhau am amser hir.

Fel arfer, mae salwch corfforol cronig yn cael ei ystyried yn 'anabledd' yn ?l y gyfraith. Mae gan bobl anabl hawl i rai hawliau, budd-daliadau a chymorth. Byddwn yn trafod y rhain ar ddiwedd yr adnodd hwn.

Os yw eich plentyn wedi cael diagnosis o salwch corfforol, mae'n bwysig eich bod chi'n ystyried ei iechyd meddwl o'r cychwyn. Yn yr adnodd hwn byddwn yn darparu cyngor i chi ar sut i wneud hyn. Byddwn hefyd yn eich cyfeirio at ffynonellau cymorth os ydych chi neu eich plentyn yn cael trafferthion.

Mae problemau iechyd meddwl hyd at bedair gwaith yn fwy cyffredin mewn pobl ifanc sydd ? phroblemau iechyd corfforol cronig na mewn pobl ifanc sydd yn iach yn gorfforol. Mae ymchwil wedi dangos bod hyn yn wir hyd yn oed i bobl ifanc sydd ? chyflyrau y gellir eu trin yn hawdd, fel asthma. Mae yna lawer o resymau pam y gallai hyn fod yn wir.

Mae bod ? salwch corfforol yn gallu effeithio ar:

  • eich bywyd teuluol
  • perthynas eich plentyn gyda’i ffrindiau
  • lefel gweithgarwch eich plentyn
  • presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol

Gall y pethau hyn i gyd effeithio ar hunan-barch eich plentyn, ac ar ei iechyd meddwl a’i les.

Mae'n bwysig pwysleisio na fydd pob person ifanc sydd ? salwch corfforol yn profi iechyd meddwl gwael. Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn ymdopi'n hynod o dda ac yn tyfu i fyny i fod yn oedolion gwydn. Yn aml mae ganddyn nhw fwy o dosturi tuag at eraill oherwydd eu profiadau iechyd eu hunain.

Bydd rhai pobl ifanc yn gweld eu gwahaniaethau fel rhywbeth sy'n eu gwneud nhw’n unigryw. Dros amser, bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn profi cymysgedd o deimladau cadarnhaol a negyddol ynghylch eu salwch corfforol. Gallai hyn hefyd newid gydag oedran neu yn dibynnu ar sut mae eu salwch yn datblygu.

Isod rydyn ni'n trafod y pethau y gallech chi a'ch plentyn eu profi os oes ganddo salwch corfforol. Efallai na fydd y pethau hyn yn effeithio arnoch chi o gwbl, ond os ydych chi'n gwybod beth ydyn nhw, byddwch chi'n gallu cadw llygad amdanyn nhw ac ymateb yn y ffordd orau bosibl.

Gall bod ? salwch corfforol effeithio ar sut mae plant a phobl ifanc yn gweld eu hunain a'r byd o'u cwmpas.

Iechyd corfforol a gallu

Gall rhai cyflyrau gyfyngu ar beth mae plant a phobl ifanc yn gallu ei wneud. Er enghraifft:

  • os ydyn nhw'n defnyddio cadair olwyn neu gymorth symudedd arall
  • os oes angen iddyn nhw gymryd meddyginiaeth ar adegau penodol o'r dydd
  • os oes rhaid iddyn nhw ymweld ?'r ysbyty neu'r meddyg yn aml.

Gall hyn achosi bwlch rhwng sut maen nhw'n gweld eu hunain a sut maen nhw'n gweld eu cyfoedion, a chael effaith negyddol ar eu hunan-barch. Efallai y byddan nhw'n gweld eu hunain fel rhywun gwahanol neu fel rhywun sydd ar y cyrion. Neu efallai y byddan nhw'n meddwl bod eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol yn gyfyngedig oherwydd eu problem iechyd corfforol.

Hwyliau ac iechyd meddwl

Mae byw gyda salwch corfforol yn gallu effeithio hefyd ar hwyliau eich plentyn. Efallai y bydd yn gwneud iddo deimlo'n bryderus, yn drist neu'n rhwystredig.

Os yw'r teimladau hyn yn parhau am amser hir, maen nhw’n gallu datblygu i fod yn gyflyrau iechyd meddwl fel gorbryder neu iselder. Mae ymchwil yn awgrymu bod y cyflyrau hyn 2-3 gwaith yn fwy cyffredin mewn plant a phobl ifanc sydd ? phroblemau iechyd corfforol cronig nag mewn pobl ifanc o'r un oedran sydd heb gyflwr iechyd corfforol.

Gall problemau iechyd meddwl hefyd gael effaith negyddol ar sut mae eich plentyn yn rheoli ei salwch corfforol. Er enghraifft, efallai y bydd yn cael trafferth cymryd meddyginiaethau neu fynd i apwyntiadau.

Ysgol

Gall bod ? salwch corfforol ei gwneud hi'n anodd i blant fynd i'r ysgol, a hefyd effeithio ar eu presenoldeb yn yr ysgol. Mae hyn yn gallu effeithio ar eu dysgu a golygu bod eu graddau neu ganlyniadau arholiadau yn is nag y bydden nhw petaen nhw ddim yn s?l. Yn ?l un astudiaeth, colli llawer o ysgol oedd y ffactor ?'r cysylltiad cryfaf ? phroblemau iechyd meddwl dros amser.

Yn anffodus, mae plant sydd ? chyflyrau iechyd corfforol yn gallu profi bwlio hefyd. Mae ymchwil yn awgrymu bod hyn yn uwch nag mewn plant sydd heb salwch corfforol. Mae plant hefyd yn gallu teimlo'n anghyfforddus ynghylch dweud wrth eu ffrindiau sut mae eu cyflwr yn effeithio arnyn nhw a'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Efallai y byddan nhw'n brwydro'n dawel er mwyn osgoi tynnu sylw at y ffaith eu bod nhw’n s?l.

Ymddygiadau peryglus

Efallai bod meddyg eich plentyn wedi siarad ? chi am 'ymddygiadau peryglus'. Mae hyn y cyfeirio at adegau pan fydd eich plentyn yn gwneud pethau a all gael effaith negyddol ar ei iechyd neu ar y driniaeth ar gyfer ei gyflwr iechyd. Er enghraifft:

  • peidio ? chymryd y feddyginiaeth y mae’n ei chael ar bresgripsiwn
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau peryglus fel defnyddio alcohol neu gyffuriau.

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai plant sydd ? salwch cronig fod yn fwy tebygol o gymryd rhan yn yr ymddygiadau hyn na phlant sydd heb salwch corfforol. Mae yna lawer o ddamcaniaethau ynghylch pam mae hyn yn digwydd, gan gynnwys:

  • awydd i ffitio i mewn gyda chyfoedion
  • chwilio am ffordd i wneud eu penderfyniadau eu hunain, yn enwedig os bydd llawer o benderfyniadau wedi cael eu gwneud drostyn nhw oherwydd eu cyflwr iechyd
  • eisiau dangos iddyn nhw eu hunain ac i eraill na fydd eu cyflwr iechyd corfforol yn eu rhwystro rhag gwneud pethau. 

Mae bod yn rhiant i berson ifanc sydd ? salwch corfforol yn gallu bod yn heriol dros ben. Rydyn ni'n gwybod y gall fod yn brofiad ynysig neu lawn straen ar adegau. Gall hyn fod yn arbennig o anodd os yw cyflwr iechyd corfforol eich plentyn yn gofyn i chi dreulio llawer o amser yn rheoli ei feddyginiaeth neu ei apwyntiadau, neu os oes angen iddo dreulio amser yn yr ysbyty.

Yn ogystal ? bod yn anodd i chi a'r oedolion eraill sy'n ymwneud ? gofalu amdano, gall hefyd fod yn heriol i frodyr a chwiorydd. Efallai y byddan nhw'n teimlo eu bod yn cael llai o sylw neu fod disgwyl mewn rhyw ffordd iddyn nhw fod yn gyfrifol am eu brawd neu chwaer. Gallai hyn wneud i chi deimlo'n euog, a chael trafferth gwybod sut i gydbwyso anghenion eich holl blant ac aelodau'r teulu.

Byddwch yn agored ac yn onest

Ceisiwch fod mor agored ? phosibl ?'ch plentyn ynghylch ei deimladau. Dechreuwch sgyrsiau'n gynnar am sut mae'n teimlo amdano’i hun. Cydnabyddwch ei bod hi’n ddigon anodd bod yn berson ifanc fel mae hi, heb orfod jyglo straen ychwanegol salwch corfforol.

Byddwch yn gefnogol

Fel gydag unrhyw blentyn neu berson ifanc, canmolwch eich plentyn am ei lwyddiannau, waeth pa mor fach ydyn nhw. Byddwch yn arbennig o gefnogol pan fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb sy'n ymwneud ?'i iechyd corfforol. Er enghraifft, pan fydd yn cofio cymryd meddyginiaeth heb gael ei atgoffa i wneud hynny.

Cefnogwch ei annibyniaeth

Anogwch eich plentyn i ddechrau datblygu rhywfaint o annibyniaeth yn gynnar, pan fo hynny’n ddiogel ac yn ymarferol.

Gallech gynnig cyfle iddo ymdrin yn annibynnol ? gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn ffyrdd sy'n briodol i'w oedran a'i allu. Pan fydd yn ifanc iawn, gallai hyn fod mewn ffyrdd bach iawn. Fodd bynnag, wrth fynd yn h?n, bydd yn gallu dechrau gofyn cwestiynau'n uniongyrchol neu rannu ei deimladau ynghylch triniaethau.

Os bydd eich plentyn yn dod yn fwy hyderus, gallech ystyried cynnig aros y tu allan i'r ystafell yn ystod ei apwyntiadau, o leiaf am y rhan gyntaf. Efallai nad yw'n teimlo'n gyfforddus yn siarad am rai o'i feddyliau neu ofnau tra byddwch chi yno.

Ceisiwch roi rhyddid i’ch plentyn

Efallai na fydd yn bosibl i'ch plentyn wneud popeth y mae ei gyfoedion yn gallu ei wneud. Fodd bynnag, dylech ganiatáu iddo wneud beth y mae'n gallu ei wneud, cyn belled nad yw'n peryglu ei ddiogelwch. Efallai y bydd angen i chi gael cymorth gan bobl eraill i wneud yn si?r bod eich plentyn yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau ac nad yw dan anfantais oherwydd ei gyflwr iechyd corfforol. Er enghraifft, efallai y bydd angen cefnogaeth neu gynllunio ychwanegol er mwyn i'ch plentyn allu cymryd rhan mewn taith ysgol. Dylai ysgol eich plentyn wneud ei gorau i'w gefnogi fel ei fod yn gallu cymryd rhan.

Siaradwch ? gweithiwr proffesiynol

Os ydych chi'n pryderu bod iechyd meddwl eich plentyn yn dioddef o ganlyniad i'w gyflwr iechyd corfforol neu ei driniaethau, siaradwch ?'r gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu amdano. Yn aml, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymwybodol iawn o'r cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl a chyflyrau iechyd corfforol. Efallai y byddan nhw'n gallu eich helpu chi i gael mynediad at gymorth wedi'i deilwra. Er enghraifft, mae seicolegydd yn aml yn gysylltiedig ? thimau diabetes, ffeibrosis systig neu epilepsi.

Cysylltwch ? phobl eraill

Efallai y byddai gwneud cysylltiadau ? theuluoedd a phobl ifanc eraill sydd ?'r un cyflwr iechyd neu gyflwr iechyd tebyg yn ddefnyddiol i chi neu'ch plentyn. Weithiau mae hyn yn cael ei alw'n 'gefnogaeth gan gymheiriaid', a dylai eich ymgynghorydd neu eich t?m meddygol allu dweud wrthych chi ble i ddod o hyd i'r math hwn o gymorth. Er enghraifft, mae yna elusennau sy'n trefnu gweithgareddau neu deithiau preswyl i blant sydd ?'r un cyflwr. Neu efallai bod gweithiwr ieuenctid sy'n rhan o'r t?m meddygol yn gwybod am y cyfleoedd hyn neu yn rhan o'r t?m sy'n eu trefnu.

Peidiwch ? bod ofn gofyn am ragor o gymorth

Cydnabyddwch pan fydd pethau'n mynd yn drech na chi neu'ch plentyn, yn enwedig os yw eich pryderon am ei iechyd meddwl yn cynyddu. Po gyntaf y byddwch chi'n gofyn am gymorth, y cyflymaf y gall pethau ddechrau gwella i'r ddau ohonoch chi. Yn yr adran nesaf, rydyn ni'n trafod sut y gallwch chi gael rhagor o gymorth.

Eich meddyg teulu

Os yw eich plentyn yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl, bydd eich meddyg teulu yn gallu cynnig cyngor a chymorth. Bydd hefyd yn gallu cynnal asesiad risg i benderfynu a oes angen cymorth ar eich plentyn gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS). Efallai y bydd yn gallu eich atgyfeirio at wasanaethau neu fathau eraill o gymorth a fydd yn fwy priodol.

Yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael cymorth gan seicolegydd iechyd. Mae'r rhain yn seicolegwyr sy'n deall y cysylltiadau rhwng salwch ac iechyd corfforol a meddyliol. Maen nhw wedi'u hyfforddi i gefnogi pobl sy'n profi effeithiau seicolegol salwch corfforol.

Gwasanaethau cymdeithasol

Efallai nad ydych chi'n gwybod bod gwasanaethau cymdeithasol yn chwarae rhan enfawr wrth gefnogi teuluoedd sydd ? phlentyn neu berson ifanc sydd ? phroblem iechyd corfforol neu anabledd sylweddol. Maen nhw'n gallu eich helpu chi i gael mynediad at gymorth ariannol yn ogystal ? chymorth mwy cyffredinol i chi a'ch plentyn. Gall hyn gynnwys eich helpu chi i gael mynediad at ofal seibiant os yw pethau'n heriol iawn. Mae hyn yn golygu bod rhywun arall yn gofalu am eich plentyn am gyfnod o amser fel y gallwch chi orffwys.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys i gael rhai budd-daliadau os oes gan eich plentyn salwch corfforol. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn ein hadnodd budd-daliadau, cymorth ariannol a chyngor ar ddyledion.

T?m gofal iechyd eich plentyn

Os yw eich plentyn yn gweld t?m gofal iechyd yn yr ysbyty yngl?n ?'i gyflwr iechyd corfforol, efallai y bydd y t?m hwn yn gallu ei helpu i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl sy'n benodol i'w gyflwr.

Ysgol

Siaradwch ag ysgol eich plentyn yn gynnar os ydych chi'n teimlo bod problemau yn yr ysgol yn effeithio ar ei iechyd meddwl. Efallai y byddan nhw’n gallu gwneud newidiadau i wella pethau. Er enghraifft, mynd i'r afael ? bwlio neu helpu eich plentyn i ddal i fyny ? gwaith os yw'n syrthio ar ei h?l hi.

Ystyrir bod gan blant sydd ? salwch corfforol hirdymor sy'n cael effaith sylweddol ar eu bywydau anabledd, ac maen nhw'n cael eu gwarchod gan y gyfraith. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r ysgol drin eich plentyn yn deg a gwneud eu gorau i beidio ?'i gau allan o weithgareddau neu wobrau oherwydd ei anabledd.

Weithiau mae ysgolion yn disgwyl i ddisgyblion wneud pethau sy'n anodd i blant sydd ? salwch corfforol. Er enghraifft, cynnal lefel uchel o bresenoldeb, cyflwyno gwaith cartref yn brydlon neu sefyll profion. Dylai ysgol eich plentyn wneud 'addasiadau rhesymol' i sicrhau nad yw'n cael ei gosbi am beidio ? bodloni gofynion a'i fod yn gallu cymryd rhan yn yr ysgol a chyflawni ynddi.

Grwpiau cymorth ac elusennau

Gofynnwch i'ch t?m gofal iechyd a oes unrhyw grwpiau cymorth neu elusennau a fyddai'n berthnasol i'ch plentyn ar gael yn eich ardal. Gallech chi chwilio am y rhain ar-lein.

Fel y soniwyd eisoes, gall cefnogaeth gan gymheiriaid fod yn amhrisiadwy o ran gwneud i blant a rhieni deimlo'n llai ynysig. Rydyn ni'n trafod rhai o'r elusennau hyn yn yr adran 'gwybodaeth bellach' isod. 

Mae Rebecca, sy’n 15 oed, yn byw gyda diabetes math 1.

“Dw i wedi cael diabetes ers pan oeddwn i’n 5 oed. Roeddwn i’n teimlo y dylai pethau fod yn haws wrth i mi fynd yn h?n ond doedden nhw ddim yn ymddangos felly.

“Llynedd, ro’n i wedi hen flino ar bopeth. Doedd mam ddim yn dda felly roedd nain yn trio fy helpu i gyda'r diabetes a doedd ganddi ddim syniad.

“Nes i stopio cymryd un o fy mhigiadau inswlin. Do'n i ddim yn meddwl y byddai’n gwneud unrhyw wahaniaeth mewn gwirionedd nac y byddai unrhyw un yn sylwi nac yn poeni. Roedd yn un peth yn llai i mi boeni amdano gyda’r nos.

“Es i’n s?l iawn ac roedd rhaid i mi fynd i'r ysbyty. Pan o’n i yno, treuliodd un o’r nyrsys diabetes arbenigol amser gyda mi. Do’n i ddim wedi dweud wrth fy nh?m fod mam ddim yn dda a doedden nhw ddim yn gwybod fy mod i’n cael problemau gorbryder. Ddaru hi drefnu i mi weld y seicolegydd. Roedd hi'n annwyl iawn ac ro’n i’n teimlo ei bod hi’n fy neall i. Ddaru hi siarad llawer ? mi am fy nheimladau a’r gorbryder a sut i'w rheoli nhw.

“Dw i'n dal i’w gweld hi ond mae pethau 'chydig yn well nawr. Es i ar daith breswyl yn ddiweddar hefyd a chael cyfle i gyfarfod pobl o'r un oed ? fi sy'n byw gyda diabetes. Does neb arall yn fy mlwyddyn i yn yr ysgol gyda diabetes felly roedd hi’n wych cael treulio amser gyda phobl sy’n deall, yn enwedig am bethau fel sut mae’n teimlo pan fydd pobl yn gwneud sylw am fy synhwyrydd i mewn gwersi ymarfer corff.”

  • Mae Contact yn elusen ar gyfer teuluoedd sydd ? phlant anabl.
  • – Mae Young Minds yn cynnig cyngor a chymorth i bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.
  • – Mae Papyrus yn elusen sy'n gweithio i atal hunanladdiad ac i hyrwyddo lles meddwl ymysg pobl ifanc.
  • – Mae Shout yn wasanaeth negeseuon testun 24/7, cyfrinachol a rhad ac am ddim ar gyfer unrhyw un sy’n cael trafferth ymdopi.

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu ?’r Cyhoedd ar faterion Plant a Theuluoedd (CAFPEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (网曝黑料). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Awduron arbenigol: Dr Catriona McKay a Dr Katherine Murtagh

Mae ffynonellau llawn ar gyfer yr adnodd hwn ar gael ar gais.

This translation was produced by CLEAR Global (Aug 2025)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry