Hunan-niweidio
Self-harm in children and young people
Below is a Welsh translation of our information resource on self-harm in children and young people. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd ? phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae’r wybodaeth hon yn trafod hunan-niweidio, ac mae wedi cael ei hysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r adran gyntaf yn edrych ar beth yw hunan-niweidio, pam ei fod yn digwydd, a sut i gael cymorth. Mae'r ail adran ar gyfer rhieni a gofalwyr plentyn sy'n hunan-niweidio. Bydd yr adnodd hwn hefyd yn trafod hunanladdiad.
Os ydych chi wedi brifo'ch hun neu'n ystyried brifo'ch hun, ffoniwch 999 neu ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys (A&E) ar unwaith. Os nad ydych chi'n si?r pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch chi, gallwch ffonio 111 neu ddefnyddio .
Rhybudd: Mae adran gyntaf yr adnodd hwn yn edrych ar sut mae pobl yn hunan-niweidio.
Mae hunan-niweidio yn cyfeirio at pan fydd rhywun yn brifo ei hun yn fwriadol yn hytrach nag ar ddamwain. Mae pobl yn hunan-niweidio mewn sawl ffordd wahanol, er enghraifft:
- torri, crafu, llosgi neu daro eich hun
- gwenwyno'ch hun trwy fwyta neu yfed pethau na ddylech chi
- rhoi'ch hun mewn sefyllfaoedd peryglus lle gallech chi gael eich niweidio
Os ydych chi'n gwneud rhywbeth sy'n niweidio'ch corff neu'n eich brifo, mae hyn yn hunan-niweidio.
Mae'n bwysig cael help os ydych chi'n niweidio'ch hun, waeth pa mor fawr neu fach yw'r niwed. Yn anffodus, gall hunan-niweidio ddod yn fwy peryglus wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae gofyn am help cyn gynted ? phosib yn gallu rhwystro pethau rhag mynd yn fwy difrifol.
Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae hunan-niweidio yn ddifrifol iawn, ond mae hefyd yn gyffredin iawn. Mae'n anodd i ni wybod yn union faint o bobl ifanc sy'n hunan-niweidio, ac mae amcangyfrifon yn amrywio. Mae ymchwil yn awgrymu bod rhwng 1 o bob 10 ac 1 o bob 4 o bobl ifanc wedi hunan-niweidio.
Efallai nad ydych chi'n gwybod yn union pam rydych chi'n hunan-niweidio, neu efallai eich bod chi'n gwneud hynny am reswm penodol iawn. Er enghraifft:
- Rydych chi'n teimlo'n drist, yn flin, yn ofnus, neu wedi'ch llethu, ac eisiau i'r teimladau hyn ddiflannu
- Mae pethau'n digwydd yn eich bywyd sy'n teimlo'n llethol neu'n anodd eu rheoli. Efallai eich bod chi'n teimlo bod hunan-niweidio yn eich helpu chi i deimlo mewn rheolaeth.
- Rydych chi wedi gweld neu glywed am bobl eraill yn hunan-niweidio ac eisiau gweld sut mae hynny'n teimlo.
- Mae gennych chi deimladau negyddol amdanoch chi'ch hun ac rydych chi'n chwilio am ffordd i gosbi eich hun.
- Rydych chi'n teimlo'n ddatgysylltiedig ac yn cael trafferth 'teimlo'. Efallai bod hunan-niweidio yn rhywbeth rydych chi'n ei wneud er mwyn gallu 'teimlo rhywbeth'.
- Mae pethau drwg yn digwydd yn eich bywyd neu yn eich meddwl, ac rydych chi'n chwilio am ffordd i ddangos i bobl sut rydych chi'n teimlo. Efallai eich bod chi mewn cyfyng-gyngor, fel petai chi eisiau ac eto ddim eisiau i bobl sylwi eich bod chi'n hunan-niweidio.
- Rydych chi'n teimlo nad ydych chi ddim eisiau byw mwyach. Nid yw llawer o bobl sy'n hunan-niweidio eisiau marw, ond mae rhai. Os ydych chi'n profi teimladau o fod eisiau marw neu o beidio ag eisiau bodoli mwyach, mae'n bwysig siarad ? rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo cyn gynted ? phosib. Gallai hwn fod yn ffrind agos, yn aelod o'r teulu neu'n athro neu athrawes.
Beth bynnag yw eich rheswm dros hunan-niweidio, nid chi sydd ar fai. Mae'n bwysig hefyd peidio ? chymharu eich hunan-niweidio chi ? hunan-niweidio unrhyw un arall. Mae pob achos o hunan-niweidio yn ddifrifol ac yn bwysig, ac mae pawb sy'n hunan-niweidio yn haeddu cael cymorth.
Beth sy'n digwydd yn fy ymennydd i pan fydda i'n hunan-niweidio?
Cyn i chi hunan-niweidio, efallai byddwch chi'n teimlo emosiynau'n cynyddu ac yn dod mor gryf fel eich bod chi'n teimlo wedi eich llethu’n llwyr. Efallai byddwch chi'n cael trafferth gwneud neu feddwl am unrhyw beth arall.
Gall hunan-niweidio greu teimlad o ryddhad dros dro a thynnu eich sylw oddi wrth y teimladau a oedd gennych chi cyn i chi hunan-niweidio. Dros amser efallai bydd angen i chi hunan-niweidio mwy neu mewn ffyrdd mwy eithafol i gael yr un teimlad o ryddhad. Mae hyn yn creu cylch sy'n gallu ei gwneud hi'n anodd rhoi'r gorau i hunan-niweidio.
.png?Status=Master&sfvrsn=82eaba3e_3)
Os dydych chi ddim wedi bod yn hunan-niweidio ers amser hir, neu os ydych chi'n teimlo bod eich hunan-niweidio ddim yn beth mawr, efallai eich bod chi'n meddwl tybed pam fod angen i chi roi'r gorau iddi.
Mae hunan-niweidio yn rhywbeth sy'n aml yn mynd yn waeth dros amser, ac wrth i hynny ddigwydd mae'r risgiau'n cynyddu. Gall hunan-niweidio arwain at:
- greithiau
- heintiau
- difrod parhaol i'r nerfau
- anaf i'r ymennydd
- difrod parhaol i'r galon, yr iau/afu a'r arennau o ganlyniad i orddos o gyffuriau
- marwolaeth ddamweiniol
Er y gall deimlo bod hunan-niweidio yn eich helpu chi i ymdopi, bydd yn effeithio'n negyddol ar eich iechyd meddwl wrth i amser fynd heibio. Dros amser efallai byddwch chi'n dod yn fwy ynysig oddi wrth ffrindiau a theulu. Waeth pa mor hir rydych chi wedi bod yn hunan-niweidio neu pa mor 'ddifrifol' yw eich hunan-niweidio, mae'n bwysig eich bod chi'n chwilio am gymorth ac yn ceisio rhoi'r gorau iddi.
Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn gallu bod yn anhygoel o anodd. Efallai eich bod chi eisiau rhoi'r gorau iddi ond ddim yn gwybod sut, neu eich bod chi'n ofni sut fyddwch chi'n ymdopi ? theimladau anodd os dydych chi ddim yn gallu hunan-niweidio. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio eich bod chi'n debygol o ddechrau teimlo'n well ar ?l i chi roi'r gorau i hunan-niweidio neu leihau faint rydych chi'n hunan-niweidio.
Isod, rydyn ni'n trafod rhai pethau y gallwch chi eu gwneud i gefnogi eich hun. Mae hyn yn cynnwys strategaethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw eich hun, a ble i droi am gymorth pellach.
Mae'n gallu bod yn anodd rhoi’r gorau i hunan-niweidio ar eich pen eich hun. Dros amser, mae'n gallu dod yn arferiad a dechrau teimlo fel yr unig beth fydd o gymorth. Gall hyn olygu nad ydych chi'n gallu rhoi’r gorau iddi pan fyddwch chi eisiau.
Mae yna lawer o ddulliau y gallwch chi eu defnyddio i geisio rhoi’r gorau i hunan-niweidio neu ei leihau. Nid oes un dull sy’n gweithio i bawb, felly efallai bydd angen i chi dreulio amser yn dod o hyd i’r dulliau sy’n gweithio i chi. Byddwch yn agored i roi cynnig ar strategaethau ymdopi newydd a chael gwared ? syniadau sydd ddim yn gweithio, a chofiwch longyfarch eich hun am roi cynnig arnyn nhw beth bynnag.
Ysgrifennu cynllun diogelwch
Mae cynllun diogelwch yn ffurflen lle rydych chi’n gallu cofnodi gwybodaeth fydd yn eich helpu chi pan fydd amseroedd yn anodd. Mae gan yr elusen Charlie Waller gynllun gweithredu lles y gallwch chi ei ddefnyddio. Efallai bod fersiwn arall ar gael gan y gweithwyr meddygol proffesiynol neu'r gwasanaeth sy'n eich trin chi.
Wrth lenwi'r cynlluniau hyn dylech gael cefnogaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol a rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Er enghraifft, ffrind neu aelod o'r teulu. Mae'n well hefyd ysgrifennu cynllun diogelwch pan fyddwch chi'n dawel ac yn gallu meddwl yn glir. Mae'n bwysig adolygu'r cynlluniau yn rheolaidd a'u cadw'n gyfredol. Mae hyn oherwydd y gallai'r pethau sy'n anodd i chi a'r pethau sy'n ddefnyddiol i chi newid dros amser.
Adnabod sbardunau
Nodwch sbardunau sy'n achosi i chi deimlo eich bod chi eisiau hunan-niweidio. Gallai'r rhain fod yn deimladau, sefyllfaoedd, pobl neu hyd yn oed adegau o'r dydd. Gweithiwch gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo i feddwl am ffyrdd y gallwch chi ymateb i'r sbardunau hyn. Er enghraifft, pan fyddwch chi'n teimlo'n drist, efallai byddai'n ddefnyddiol i chi ffonio ffrind dibynadwy. Neu pan fyddwch chi'n teimlo wedi'ch llethu, efallai byddai'n ddefnyddiol i chi fynd i 'le diogel'. Rydyn ni'n trafod gwahanol dechnegau tynnu sylw isod.
“Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig adnabod sbardunau a chael rhestr sy'n dweud, pan fydda i'n teimlo fel hyn, mae hyn yn helpu. Mae diweddaru'r rhestr yn rheolaidd yn gallu bod yn dda hefyd.” Emma
Siarad ? theulu a ffrindiau
Mae teulu a ffrindiau yn ffynhonnell gefnogaeth bwysig. Mae estyn allan at ffrind dibynadwy pan fyddwch chi'n teimlo eich bod chi eisiau hunan-niweidio yn tynnu eich sylw am ddigon o amser fel bod yr ysfa yn diflannu. Efallai bydd hi'n ddefnyddiol i chi gael gair cod ar gyfer pan fydd pethau'n mynd yn anodd. Gall hyn helpu'r bobl sydd o'ch cwmpas chi i wybod pryd mae angen help arnoch chi, heb i chi orfod mynd i fanylion.
Efallai byddwch chi hefyd eisiau dweud wrth bobl pa bethau sydd ddim yn ddefnyddiol i chi. Os yw siarad yn teimlo'n rhy anodd, yna ystyriwch ffyrdd eraill o roi gwybod i rywun sut rydych chi'n teimlo. Er enghraifft, anfon neges destun, neu ysgrifennu llythyr.
Bod yn ofalus wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
Mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad ? ffrindiau a theulu, ac o wneud cysylltiadau newydd. Fodd bynnag, efallai byddwch chi hefyd yn dod o hyd i gynnwys ar-lein sydd ddim yn ddefnyddiol os ydych chi'n ceisio rhoi'r gorau i hunan-niweidio. Osgowch wefannau neu gyfrifon sy'n annog hunan-niweidio. Os oes angen, gallwch hefyd newid eich gosodiadau dewis i osgoi geiriau neu bynciau penodol. Neu gallwch gyfyngu neu rwystro cynnwys sy'n sbarduno eich hunan-niweidio.
Fe allech chi hefyd roi cynnig ar ddilyn cyfrifon sy'n gwneud i chi deimlo'n dda amdanoch chi'ch hun, neu sy'n cynnig negeseuon cadarnhaol am iechyd meddwl a dod dros gyfnod o hunan-niweidio.
Os ydych chi'n dal i weld cynnwys sy'n achosi gofid i chi neu'n eich sbarduno chi i hunan-niweidio, ceisiwch osgoi defnyddio'r apiau hynny am y tro. Gall hyn fod yn anodd os yw eich ffrindiau yn eu defnyddio nhw, ond mae'n bwysig rhoi blaenoriaeth i'ch iechyd meddwl.
Cadw dyddiadur
Ysgrifennwch, neu tynnwch lun i ddangos sut rydych chi'n teimlo. Mae hyn yn gallu eich helpu chi i adnabod patrymau neu sbardunau penodol, yn enwedig os fyddwch chi'n gwneud hyn cyn ac ar ?l i chi hunan-niweidio. Mae hyn yn gallu eich helpu chi i osgoi'r sbardunau hyn neu feddwl am dechnegau i dynnu eich sylw.
Technegau tynnu sylw
Weithiau, y prif beth y gallwch chi ei wneud yw cadw eich meddwl yn brysur nes bod yr ysfa i hunan-niweidio yn diflannu. Bydd beth sy'n ddefnyddiol i chi yn dibynnu ar eich hoff bethau a’ch cas bethau chi, a dylai unrhyw ddulliau rydych chi'n eu defnyddio fod yn unigryw i chi. Mae rhai syniadau yn cynnwys:
- Creu poen mewn ffordd fwy diogel trwy fflicio band lastig ar eich arddwrn neu ddal ciwb rhew/i?.
- Gwneud rhywbeth creadigol fel ysgrifennu, peintio, gwau neu bobi cacen.
- Mynd i redeg neu wneud math arall o ymarfer corff sy'n gwneud i chi chwysu a theimlo'n fyr o wynt.
- Ffonio ffrind neu gyfarfod rhywun wyneb yn wyneb.
- Gwylio fideo doniol neu wrando ar hoff g?n.
- Defnyddio'r dechneg ymwybyddiaeth ofalgar 5-4-3-2-1. Mae hyn yn golygu meddwl am:
- 5 peth rydych chi’n gallu eu gweld
- 4 peth rydych chi’n gallu eu cyffwrdd
- 3 pheth rydych chi’n gallu eu clywed
- 2 beth rydych chi’n gallu eu harogli
- 1 peth rydych chi’n gallu ei flasu.
- Gwneud blwch hunan-dawelu – Mae'r rhain yn flychau bach (fel blwch esgidiau) yn llawn pethau sy'n eich tawelu. Er enghraifft, teganau ffidlan, gel cawod ag arogl da arno neu ddarnau cysurlon o ddeunydd.
Gallech chi rannu'r technegau tynnu sylw sy'n ddefnyddiol i chi ?'r bobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw. Fel yna, byddan nhw'n gallu eich helpu chi i'w defnyddio pan fyddwch chi'n cael trafferth.
Am ragor o gymorth, gallwch siarad ?'ch meddyg teulu, eich nyrs ysgol, neu ag athro dibynadwy. Gallech chi hefyd droi at eich Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) lleol, os ydych chi mewn cysylltiad ? nhw yn barod.
Pwy bynnag fyddwch chi'n siarad ? nhw, dylen nhw ofyn cwestiynau sy’n debyg, a defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhannu i'w helpu i benderfynu pa wasanaethau fydd fwyaf defnyddiol i chi.
Dylen nhw ddysgu mwy am pam rydych chi'n hunan-niweidio a beth allai fod yn digwydd yn eich bywyd. Dylen nhw hefyd geisio darganfod a oes unrhyw beth arall yn digwydd a allai fod yn achosi i chi hunan-niweidio, fel:
- Cyflyrau iechyd meddwl fel iselder, gorbryder neu anhwylderau bwyta. Os oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl, gallai ei drin eich helpu chi i roi'r gorau i hunan-niweidio
- Cyflyrau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth neu ADHD. Dydi'r cyflyrau hyn ddim yn achosi hunan-niweidio. Fodd bynnag, os dydych chi ddim yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer y cyflyrau hyn, gallai hyn achosi gofid a allai wedyn gyfrannu at hunan-niweidio.
- Os ydych chi'n defnyddio cyffuriau neu alcohol
- Os oes rhywbeth yn digwydd yn eich bywyd sy'n achosi gofid i chi. Er enghraifft, anawsterau gartref neu yn yr ysgol, bwlio, neu gam-drin.
Dylen nhw eich helpu i feddwl am:
- pam rydych chi'n hunan-niweidio
- beth yw'r sbardunau sy'n achosi i chi hunan-niweidio
- y strategaethau ymdopi sydd gennych chi
- y bobl yn eich bywyd sy'n eich cefnogi chi
- risgiau hunan-niweidio.
Dylen nhw hefyd rannu manylion gwasanaethau cymorth lleol, a gwasanaethau iechyd meddwl brys fel eich bod chi'n gwybod ? phwy i gysylltu os oes angen help arnoch chi.
Mae pob person ifanc yn wahanol ac nid oes un driniaeth sy'n addas i bawb ar gyfer hunan-niweidio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio gyda chi i ddarganfod pa driniaeth neu gynllun rheoli fydd orau i chi.
Cwnsela a therap?au siarad
Efallai bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn argymell eich bod chi'n cymryd rhan mewn cwnsela cefnogol neu therap?au seicolegol (sydd hefyd yn cael eu galw yn therap?au siarad).
Mae yna lawer o wahanol fathau o therap?au seicolegol, a gallai'r math fydd yn cael ei gynnig i chi ar gyfer hunan-niweidio gynnwys:
- therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)
- therapi ymddygiad dialectig (DBT).
Bydd y math o therapi fydd yn cael ei gynnig i chi yn dibynnu ar eich anghenion, ac a oes gennych chi unrhyw gyflyrau iechyd meddwl.
Gellir cynnig cwnsela neu therapi siarad:
- Yn unigol – Mae hyn yn golygu eich bod chi'n cyfarfod therapydd mewn sefyllfa un i un.
- Mewn gr?p – Mae hyn yn golygu eich bod chi'n cyfarfod therapydd a phobl ifanc eraill sy'n profi heriau tebyg i chi. Gall hyn eich helpu chi i ddysgu gan bobl eraill ac i fod yn rhan o gymuned.
- Gyda'ch teulu – Mae hyn yn golygu bod eich teulu'n cymryd rhan yn eich therapi. Gall hyn eich helpu chi i ddeall sut gallwch chi i gyd weithio gyda'ch gilydd i gefnogi eich gilydd.
Bydd y cwnsela a'r therap?au siarad sydd ar gael yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Yn anffodus, efallai bydd angen i chi aros peth amser cyn cael therapi siarad.
Cymorth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl isorweddol
Os oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl isorweddol, gallai ei drin eich helpu chi i leihau neu roi'r gorau i hunan-niweidio. Er enghraifft, os ydych chi'n profi iselder, mae'n debyg bydd trin hwn yn rhan bwysig o drin eich hunan-niweidio.
Meysydd eraill o gymorth
Mae llawer o wahanol wasanaethau a all fod o gymorth os ydych chi'n berson ifanc sy'n hunan-niweidio, gan gynnwys:
- eich ysgol
- eich meddyg teulu
- CAMHS
- gwasanaethau gofal cymdeithasol
- elusennau a sefydliadau sydd ddim yn gwneud elw – gall y rhain gynnig cyngor a chymorth arbenigol i chi a'ch teulu.
Cofiwch, os na fyddwch chi'n cael eich atgyfeirio at CAMHS, nid yw hyn yn golygu fod beth sy'n digwydd ddim yn cael ei gymryd o ddifrif. Weithiau mae’r cymorth sy'n iawn i chi yn gallu dod o wasanaeth arall.
Weithiau, bydd angen i weithwyr meddygol proffesiynol drin hunan-niweidio. Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi niweidio eich hun mewn ffordd beryglus, siaradwch ? rhywun ar unwaith.
Mae'n rhaid i chi fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys os ydych chi:
- Wedi cymryd gorddos o unrhyw fath. Mae nifer fawr o feddyginiaethau yn gallu achosi llawer iawn o niwed i'ch corff, ac efallai na fyddwch chi'n gallu dweud ar unwaith bod hyn wedi digwydd.
- Wedi torri'ch hun a ddim yn gallu atal y gwaedu
- Yn poeni eich bod chi wedi niweidio'ch hun yn ddrwg mewn ffordd sy'n golygu nad ydi'n bosib ei drin gartref
- Yn teimlo nad ydych chi'n gallu cadw eich hun yn ddiogel.
Os dydych chi ddim yn gallu mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys yn ddiogel, dylech chi neu rywun arall ffonio am ambiwlans.
Beth sy'n digwydd yn yr adran damweiniau ac achosion brys?
Mae gan The Mix, yr elusen i bobl ifanc, dudalen sy'n trafod . Yn yr adran damweiniau ac achosion brys, byddwch chi’n cael cymorth ar gyfer eich iechyd corfforol a'ch iechyd meddyliol:
- bydd meddygon a nyrsys yn helpu i drin unrhyw anafiadau a allai fod gennych
- bydd gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn siarad ? chi am eich iechyd meddwl a'ch emosiynau.
I rai pobl ifanc mae bod mewn adran damweiniau ac achosion brys brysur yn gallu achosi gofid. Yn anffodus, nid yw pawb yn cael profiadau cadarnhaol wrth geisio gofal brys am hunan-niweidio. Cofiwch fod gennych chi hawl i geisio cymorth, ac ni ddylech chi byth deimlo eich bod chi’n cael eich cywilyddio na'ch barnu am wneud hyn. Rydych chi wedi gwneud y peth iawn wrth fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys.
“Trobwynt mawr yn ein perthynas ni oedd pan wnaeth Emma hunan-niweidio ac es i ? hi i'r adran damweiniau ac achosion brys. Nes i ddim gwneud drama o'r peth a gweiddi, dim ond delio ag e. Dw i'n credu bod Emma wedi teimlo fy mod i'n deall ac ar ei hochr hi, ond cyn hynny roedd hi'n ryw deimlo 'Alla i ddim gwneud hyn pan fydd mam o gwmpas achos fydd hi'n mynd yn wallgof'. Nes i erioed feddwl fasa hynny’n foment dda.” Toni
Mae hunanladdiad yn golygu fod rhywun yn rhoi diwedd ar ei fywyd ei hun. Mae’r cysylltiad rhwng hunanladdiad a hunan-niweidio yn gymhleth. Nid yw pawb sy’n hunan-niweidio eisiau marw, ac nid oedd pawb sy’n marw trwy hunanladdiad eisiau marw. Fodd bynnag, mae hunan-niweidio yn gallu bod yn arwydd fod rhywun eisiau marw. Gall hunan-niweidio hefyd arwain yn ddamweiniol at rywun yn marw pan doedd e neu hi ddim eisiau, neu pan doedd e neu hi ddim yn si?r a oedd eisiau marw ai peidio.
Dyma pam mae hunan-niweidio yn cael ei gymryd yn gwbl o ddifrif. Os ydych chi'n hunan-niweidio, efallai bydd eich teulu a'ch ffrindiau neu feddygon yn gofyn i chi a ydych chi eisiau marw. Mae'n bwysig bod yn onest yngl?n ? sut rydych chi'n teimlo er mwyn i chi allu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi.
Fel rhiant neu ofalwr, gall fod yn anodd dros ben gwybod bod eich plentyn yn hunan-niweidio. Mae teimlo’n ddig, yn ofnus neu’n euog yn gwbl normal. Efallai byddwch chi hefyd yn teimlo eich bod chi eisiau cymryd arnoch nad yw'n digwydd, neu efallai nad ydych chi'n gwybod beth i'w wneud.
Peidio ? chynhyrfu
Y peth pwysicaf i chi ei wneud yw peidio ? chynhyrfu. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i wybod y bydd yn gallu ymddiried ynoch chi a dibynnu arnoch chi yn y dyfodol.
Cymryd y mater o ddifrif
Gall fod yn demtasiwn credu bod hunan-niweidio yn cael ei achosi gan 'bwysau cyfoedion', neu feddwl y bydd eich plentyn yn 'tyfu allan ohono'. Fodd bynnag, mae hunan-niweidio bob amser yn arwydd bod rhywbeth o'i le, ac mae'n rhaid ei gymryd o ddifrif. Gall hunan-niweidio ddechrau oherwydd pwysau cyfoedion, ond parhau oherwydd problemau eraill sy'n digwydd ym mywyd eich plentyn.
Mae meddwl am hunan-niweidio fel ffordd o gyfathrebu yn gallu bod yn ddefnyddiol. Gall plant a phobl ifanc ei chael hi'n anodd mynegi eu hunain pan fyddan nhw'n teimlo’n ofidus neu wedi'u llethu. Gallan nhw hefyd ei chael hi'n anodd rhannu pan fydd rhywbeth drwg yn digwydd iddyn nhw.
Peidio ? beio eich hun
Fel rhiant neu ofalwr, gall fod yn hawdd beio’ch hun a phoeni eich bod chi wedi methu rhywbeth neu wedi gwneud rhywbeth o’i le. Fodd bynnag, yn aml mae nifer o resymau dros y ffordd y mae eich plentyn yn teimlo. Canolbwyntiwch ar gynnig cefnogaeth a dealltwriaeth, yn hytrach nag ar feio'ch hun.
Peidio ag ymateb yn negyddol
Os yw eich plentyn wedi niweidio ei hun, mae'n debyg y byddwch chi'n teimlo panig a gofid. Efallai mai eich ymateb cyntaf fydd dweud wrtho pa mor beryglus yw e, neu ddweud fod yn rhaid iddo roi'r gorau iddi. Yn anffodus, gallai hyn wneud iddo ddal yn ?l rhag rhannu gwybodaeth arall ? chi yn y dyfodol. Os yw'n meddwl y bydd yn mynd i helynt, efallai bydd yn ceisio cuddio ei hunan-niweidio rhagddo chi ac eraill.
“Fel rhiant rydych chi eisiau amddiffyn eich plentyn, ac felly dydych chi ddim yn gweld yr holl fannau llwyd. Mae'r holl arwyddion cynnil yn mynd ar goll oherwydd eich bod chi'n meddwl am ddim ond y canlyniad terfynol posibl.” Abi
Ceisio deall pam mae e neu hi'n hunan-niweidio
Gofyn cwestiynau tawel, syml. Er enghraifft
- Wyt ti'n gwybod pam wnes di ddechrau hunan-niweidio?
- Sut wyt ti'n teimlo pan fyddi di'n hunan-niweidio?
- Ddaru rhywun ddangos i ti sut i hunan-niweidio?
- Oes rhywbeth yn digwydd sy'n gwneud i ti deimlo fel hyn?
- Wyt ti eisiau i mi helpu mewn rhyw ffordd?
Gall y mathau hyn o gwestiynau eich helpu chi i ddeall pam ei fod yn hunan-niweidio ac a yw rhywbeth wedi digwydd i achosi'r hunan-niweidio. Efallai na fyddwch chi'n cael yr holl atebion sydd eu hangen arnoch chi ar unwaith. Byddwch yn amyneddgar a rhowch sicrwydd i’ch plentyn y gall siarad ? chi ar unrhyw adeg.
Ysgrifennu cynllun diogelwch
Pan fydd eich plentyn yn teimlo'n fwy tawel ei feddwl, efallai yr hoffech chi gydweithio i greu cynllun diogelwch. Neu os oes ganddo gynllun yn barod, efallai byddai’n ddefnyddiol i chi ei adolygu gyda'ch gilydd. Gallwch ddefnyddio'r cynllun hwn i'ch helpu chi a'ch teulu i wybod sut mae eich plentyn eisiau cael ei gefnogi pan fydd yn hunan-niweidio neu'n meddwl am hunan-niweidio.
Ystyried sut y bydd eich plentyn yn ymateb orau
Nid oes un ffordd o siarad ?'ch plentyn am hunan-niweidio, nac am unrhyw beth o ran hynny. Bydd sut rydych chi'n siarad ?'ch plentyn yn dibynnu
- ar y plentyn
- arnoch chi
- ar eich perthynas
- ar ddeinameg eich teulu
- ar eich diwylliant
- ac ar lawer o ffactorau eraill.
Dyma syniadau ar gyfer sut y gallech chi wneud i'ch plentyn deimlo'n fwy cyfforddus wrth gael y sgyrsiau hyn:
- Siarad amdano yn y car – Mae rhai plant yn ei chael hi'n haws siarad pan nad oes neb yn edrych yn uniongyrchol arnyn nhw.
- Ysgrifennu at eich gilydd – Mae rhai plant yn ei chael hi'n anodd siarad yn agored, ond maen nhw'n fwy cyfforddus yn ysgrifennu am bethau.
- Siarad amdano ar amser penodol o'r dydd – Meddyliwch am adegau pan mae eich plentyn yn fwyaf agored ac yn teimlo'n fwyaf tawel. Er enghraifft, amser gwely neu ar y ffordd i'r ysgol.
- Cael rhywun arall i gael y sgwrs – Er y dylech chi fod yn ofalus ynghylch cynnal cyfrinachedd, efallai bydd eich plentyn yn fwy tebygol o siarad ? rhywun arall. Er enghraifft, efallai bod ganddo hoff ewythr neu fodryb neu hyd yn oed athro neu athrawes y mae'n fwy agored ag e neu hi.
Gwybod pryd i roi'r gorau i siarad
Efallai byddai’n ddefnyddiol i chi gael 'gair diogel' i ddechrau'r sgwrs ac i'w gorffen. Mae siarad am hunan-niweidio yn gallu bod yn anodd, a gall hyn ganiatáu i'ch plentyn gael y sgyrsiau hyn mewn ffordd ddiogel, lle nad yw’n teimlo wedi'i lethu.
Cynnal ymddiriedaeth
Gall hunan-niweidio fod yn beth cyfrinachol iawn, ac efallai bod eich plentyn yn cario llawer o gywilydd ac ofn. Mae'n bwysig ei fod yn gallu ymddiried ynoch chi i beidio ? rhannu gwybodaeth am ei hunan-niweidio ag eraill. Mae hefyd yn bwysig nad yw'n teimlo dan bwysau i'w gadw'n gyfrinachol. Cofiwch, efallai bydd angen i chi ddweud wrth bobl eraill bod eich plentyn yn hunan-niweidio os bydd yn mynd yn fwy difrifol. Mae'n bwysig peidio ag addo ei gadw'n gyfrinachol.
Lleihau niwed
Ni waeth faint o gefnogaeth fyddwch chi'n ei roi i'ch plentyn, efallai bydd yn dal i hunan-niweidio. Os yw'n hunan-niweidio, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i sicrhau fod hynny mor ddiogel ? phosibl:
- ei annog i siarad ? chi os yw'n hunan-niweidio
- bod ? rhwymynnau ac offer meddygol arall ar gael
- gwneud yn si?r nad yw'n hawdd iddo gael mynediad at lawer iawn o feddyginiaeth neu wrthrychau miniog. Wrth gwrs, ni fydd hyn bob amser yn bosib.
Er na fydd y pethau hyn yn dileu'r risg o hunan-niweidio yn llwyr, gallan nhw ei gwneud hi'n fwy anodd i'ch plentyn hunan-niweidio. Neu gall olygu, os fydd e neu hi yn gwneud hynny, bydd yn gallu ceisio cymorth cyn gynted ? phosibl.
Mae gan y GIG wybodaeth a fideo ar a allai fod yn ddefnyddiol i rieni.
Gwybodaeth i bobl ifanc
– Mae gan Childline wasanaeth ff?n cyfrinachol am ddim i blant.
- Gwasanaeth 24 awr sy'n cynnig cefnogaeth emosiynol gyfrinachol i unrhyw un sydd mewn argyfwng.
– Elusen sy'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.
Apiau
– Mae Calm Harm yn ap am ddim sy'n helpu pobl ifanc dros 13 oed i reoli'r ysfa i hunan-niweidio. Gallwch ddewis gweithgareddau o wahanol fathau: cysuro, tynnu sylw, mynegi eich hun, rhyddhau ac ar hap.
– Ap diogel a dienw am ddim i gefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Mae'r ap hwn yn cynnwys cylchgrawn, byrddau trafod, traciwr nodau, dyddiadur, opsiynau sgwrs a negeseua.
Gwybodaeth i ffrindiau
– Gwybodaeth i bobl ifanc gan yr elusen Mind ar gefnogi ffrind neu bartner sy'n hunan-niweidio.
– Mae YoungMinds wedi llunio rhestr o awgrymiadau ar gyfer pobl ifanc sy'n adnabod rhywun sy'n hunan-niweidio.
Gwybodaeth i athrawon
Pobl ifanc sy'n hunan-niweidio: canllaw i ysgolion – Mae'r Coleg wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i gynhyrchu canllaw ar hunan-niweidio ar gyfer ysgolion. Dylid defnyddio'r canllaw hwn ochr yn ochr ? pholis?au diogelu presennol ysgolion.
Canllawiau
, canllaw NICE NG225 – Gwybodaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar beth y gallwch chi ei ddisgwyl gan wasanaethau gofal iechyd os ydych chi wedi hunan-niweidio.
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu ?’r Cyhoedd ar faterion Plant a Theuluoedd (CAFPEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (网曝黑料). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Prif awdur: Dr Emma Diggins
Arbenigwyr trwy brofiad: Abiola Johnson, Emma Wakefield a Toni Wakefield
Mae'r wybodaeth hon yn adlewyrchu'r dystiolaeth orau bosibl a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
This translation was produced by CLEAR Global (June 2025)