网曝黑料

CBSeic Cymru i noddi Nant Caredig am y drydedd flwyddyn yn olynol

Newyddion Cymru
22 May 2025

Eisteddfod Dur a M?r, Parc Margram a'r Fro 2025Eisteddfod yr Urdd yw g?yl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop. Mae’n ddathliad o’r iaith Gymraeg, diwylliant a'r cyfoeth o dalent ifanc yng Nghymru.

Eleni, mae’r Eisteddfod yn ymweld ? Pharc Margam, Castell-nedd Port Talbot, o ddydd Llun 26 tan ddydd Sadwrn 31 Mai. Thema’r ?yl yw Dur a M?r, sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol Port Talbot a’r cyffiniau.

Mae’n bleser gan CBSeic Cymru gyhoeddi ei gefnogaeth eto eleni i ardal les Nant Caredig yr Eisteddfod, gan adeiladu ar ein partneriaeth hirdymor gyda’r Urdd.

Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae Nant Caredig yn cynnig ardal ddiogel i unigolion niwroamrywiol neu unrhyw un arall sydd angen llecyn tawel i ymlacio, i ffwrdd o brysurdeb y Maes.

Bydd Yurt Nant Caredig hefyd yn cynnal ystod amrywiol o weithgareddau lles trwy gydol yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys sesiynau therapi celf, jambor?au Makaton, gweithdai Triban i deuluoedd, a gweithgareddau Paid ? Bod Ofn gyda’r gr?p pop Eden.

Mae’r rhaglen lawn ar gael ar Ap yr Eisteddfod.

Dywedodd Anwen Pari Owen, Swyddog Nawdd a Phartneriaethau’r Urdd: 

"Rydym yn hynod ddiolchgar i CBSeic Cymru am noddi Nant Caredig am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae'r gefnogaeth hon wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ein helpu i ddarparu ardal hygyrch a diogel lle gall pobl ifanc dyfu, cysylltu, a ffynnu. Mae ein partneriaeth gyda’r Coleg wedi ein helpu i barhau ?’n cenhadaeth o feithrin lles a photensial pob person ifanc yng Nghymru. Diolch o galon am fod yn rhan o’r daith hon gyda ni." 

Byddwn yn rhannu diweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn annog pob aelod o’r Coleg i ddysgu mwy am waith yr Urdd a mwynhau dathliadau eleni.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar .

For further information, please contact: